CELG(4) HT 1

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i: Ymchwiliad i: Fasnachu Pobl

Ymateb Gan: y Cydgysylltydd Atal Masnachu pobl

 

 

Ymateb gan: Cydgysylltydd Atal Masnachu Mewn Pobl

                                                                                                                  

 

Dydd Mercher 20 Tachwedd 2013

 

Masnachu Mewn Pobl

 

1.    Rôl y Cydgysylltydd Atal Masnachu Mewn Pobl, ei effeithiolrwydd a’i lwyddiannau:

 

Rôl y Cydgysylltydd Atal Masnachu Mewn Pobl

 

1.1   Mae ymdrin â masnachu mewn pobl yn gofyn am weithredu cyd-gysylltiedig sy’n torri ar draws terfynau pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Cryfhawyd yr ymateb yng Nghymru trwy benodi Cydgysylltydd. Nod y rôl yw gwneud Cymru yn lle anodd i fasnachu mewn pobl ynddi a chydgysylltu’r gefnogaeth orau posibl i ddioddefwyr sydd wedi cael eu masnachu.

 

1.2   Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig sydd wedi penodi Cydgysylltydd. Deilliodd creu’r swydd o waith y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu Mewn Pobl, dan gadeiryddiaeth Joyce Watson AC. Roedd y swydd yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a bu mewn bodolaeth ers 4 Ebrill 2011. Stephen Chapman yw’r ail gydgysylltydd a daeth i’w swydd ym mis Tachwedd 2012.

 

1.3   Mae’r Cydgysylltydd yn rhan o’r Tîm Trais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig, ynr Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru. Trwy hyn mae’r rôl yn cael ei hintegreiddio yn yr agenda Trais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig. 

 

Effeithiolrwydd a llwyddiannau

 

1.4   Yn ei flwyddyn gyntaf, mae’r Cydgysylltydd presennol wedi llunio cyswllt gydag ystod eang o unigolion a sefydliadau, o sefydliadau datganoledig statudol ac anstatudol a Chyrff Anllywodraethol, i godi ymwybyddiaeth a chydlynu gweithgareddau diwnïad i ymdrin â masnachu mewn pobl yng Nghymru.

 

1.5   Sefydlwyd Grŵp Arwain Atal Masnachu Mewn Pobl Cymru gyda’r diben o gynnig arweiniad strategol ac mae wedi datblygu Cynllun Cyflawni i gefnogi’r gwaith o gyflawni nod Llywodraeth Cymru o'i gwneud yn anodd masnachu mewn pobl yng Nghymru a chynnig y gefnogaeth orau posibl i ddioddefwyr sydd wedi cael eu masnachu. 

 

1.6   Dynodwyd casglu data a rhannu cudd-wybodaeth fel maes allweddol y dylid ei wella yn adroddiad blynyddol cyntaf y Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol ar Fasnachu Mewn Pobl a gyflwynwyd i’r Senedd yn 2012. Y grŵp hwn, dan gadeiryddiaeth Gweinidog Diogelwch y Swyddfa Gartref, sydd yn goruchwylio dull y Deyrnas Unedig o ymdrin â masnachu mewn pobl. Mae hyn yn cynnwys Strategaeth Masnachu Mewn Pobl Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r modd y mae’r Deyrnas Unedig yn cydymffurfio â gofynion yr Undeb Ewropeaidd a gofynion rhyngwladol.

 

1.7   Cafwyd cydnabyddiaeth i’r angen am sylfaen gadarn o dystiolaeth yng Nghymru. Credir mai dim ond cyfran fechan iawn o’r cyfanswm yw’r ffigwr presennol o 34 o gyfeiriadau a gofnodwyd yn nata Peirianwaith Cyfeirio Cenedlaethol (NRM) Canolfan Fasnachu Mewn Pobl y Deyrnas Unedig 2012. Yn 2009, cyflwynodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yr NRM, sy’n fframwaith amlasiantaeth a gynlluniwyd i asiantaethau sy’n ymwneud ag achosion masnachu mewn pobl gydweithredu, rhannu gwybodaeth am ddioddefwyr posibl a hwyluso mynediad at gefnogaeth iddynt. Cyfeirir dioddefwyr at y broses hon gan sefydliadau Ymatebwyr Cyntaf ac mae’r Awdurdod Cymwys (naill ai Canolfan Fasnachu Mewn Pobl y Deyrnas Unedig neu Adran Fewnfudo'r Swyddfa Gartref) yn penderfynu ar eu statws o ran masnachu mewn pobl.

 

1.8   Mae casglu sylfaen o dystiolaeth am raddfa masnachu mewn pobl yng Nghymru yn un o amcanion strategol y Grŵp Arwain. Mae’r Cydgysylltydd yn gweithio gyda phartneriaid i gynhyrchu ‘setiau data cynradd ac eilaidd’ fel sail i gasglu lefel y masnachu mewn pobl yng Nghymru. Y set data gynradd yw NRM y Deyrnas Unedig, y cyfeirir ato uchod, a’r nifer o achosion sy’n cael eu trin yn y System Cyfiawnder Troseddol. Mae Uwch Swyddog Ymchwil o Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith o ddynodi setiau data eilaidd.

 

1.9   Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi comisiynu ‘Adolygiad o Wasanaethau Trais yn Erbyn Menywod, Trais Domestig a Rhywiol’ ac mae masnachu mewn pobl wedi ei gynnwys yn ei gwmpas.  Bydd yr Adolygiad hwn, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Central Lancashire, yn rhoi adroddiad i’r Gweinidog erbyn diwedd 2013, a bydd y canfyddiadau yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.  Cyfetholwyd y Cydgysylltydd hefyd ar ‘Grŵp Data Tasg a Gorffen’ Grŵp Strategaeth ar y Cyd y Swyddfa Gartref sy’n datblygu’r dystiolaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig.

 

1.10      Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet, sy’n arwain ar fasnachu mewn pobl ar ran Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus (PSLG). Yn y rôl hon, mae’n parhau i godi ymwybyddiaeth o atal masnachu mewn pobl ymysg Prif Weithredwyr eraill ar draws Cymru.

 

1.11      Ym Mawrth 2013, sicrhaodd y Cydgysylltydd gytundeb gan Grŵp Adolygu NRM y Swyddfa Gartref, i’r sefydliadau o Gymru, Bawso a New Pathways, gael eu cydnabod fel sefydliadau sy’n Ymatebwyr Cyntaf. Bwriad hyn yw sicrhau, trwy roi’r gwaith hwn i ddau sefydliad Anllywodraethol, y bydd gan ddioddefwyr masnachu mewn pobl hyder i gyfeirio eu hunain at yr NRM. Yn ogystal â rhoi cefnogaeth i’r dioddefwyr yma trwy’r broses NRM, bydd y data yn cynnig cudd-wybodaeth y gellir ei defnyddio i ddwyn y masnachwyr o flaen eu gwell ac yn cynorthwyo i gryfhau’r dystiolaeth.

 

1.12      Gan adeiladu ar lwyddiant Grŵp Ymgynghori Gwent ar Fasnachu Mewn Pobl, a sefydlwyd i ddwyn dull amlasiantaethl o ymdrin â masnachu mewn pobl yng Ngwent, sefydlwyd fforymau Atal Masnachu Mewn Pobl ar gyfer Caerdydd, De Cymru a Gorllewin y Bae. Diben y fforymau hyn yw rhannu ‘arfer da’ ar wybodaeth/cudd-wybodaeth a chyflawni cynlluniau ‘lleol’. Mae fforymau Atal Masnachu Mewn Pobl yn cael eu datblygu ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal Dyfed-Powys hefyd.

 

1.13  Gweithiodd y Cydgysylltydd gyda’r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a phartneriaid eraill i ddatblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer Uwch Swyddogion Ymchwilio. Mae’r rhaglen ddeuddydd, sy’n cael ei chyflwyno o ‘Ganolfan Hydra’ ym mhencadlys Heddlu De Cymru, yn cael ei chyflwyno i Uwch Swyddogion Ymchwilio, yn Heddlu De Cymru i gychwyn, ac yna ar draws y tri llu heddlu arall yng Nghymru. Mae Cymru yn arwain yn hyn o beth ac mae Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) wedi cydnabod y rhaglen hyfforddi fel ‘arfer da’ i’w raeadru ar draws y Deyrnas Unedig.

 

1.14  Mae’r Cydgysylltydd yn gweithio gyda chydweithwyr ar gynllun, dan arweiniad Gwasanaeth Erlyn y Goron, i gyflwyno Timau Ymchwilio ar y Cyd ar gyfer achosion masnachu mewn pobl. Mae’r partneriaid eraill yn cynnwys yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol, Mewnfudo'r Swyddfa Gartref ac Awdurdod Trwyddedu Arweinwyr Gangiau.

 

1.15      Ym Mawrth 2013, lansiodd ACPO ‘Operation Eagle’, cynllun parhaus i wella’r ymateb i fasnachu mewn pobl a throseddau mewnfudo cyfundrefnol. Amcan yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth, cynyddu faint o wybodaeth a dderbynnir a gwella cydgysylltu a gweithgareddau gweithredol yr holl luoedd heddlu ar draws Cymru a Lloegr. Mae pedwar Llu Heddlu Cymru yn ymwneud â gweithrediadau ataliol, rhagweithiol atal masnachu mewn pobl. Mae’r Cydgysylltydd yn gweithio gydag Un Man Cyswllt ym mhob un o’r Lluoedd Heddlu ac yn helpu i rannu arfer da ar draws Cymru.

 

1.16  Fel rhan o Gynllun Cyflawni Grŵp Arwain Atal Masnachu Mewn Pobl Cymru, mae tudalennau Llywodraeth Cymru ar y we am Fasnachu Mewn Pobl wedi cael eu hadolygu a’u diweddaru i roi un man cyswllt i gael gwybodaeth i weithwyr proffesiynol, ymarferwyr a’r cyhoedd. Y Cydgysylltydd sy’n gyfrifol am gynnal y tudalennau gwe a sicrhau bod y wybodaeth yn gyfredol ac wedi ei diweddaru.

 

1.17  Treialodd Fforwm Atal Masnachu Mewn Pobl Caerdydd eu Cynhadledd Asesu Risg Masnachu Mewn Pobl Amlasiantaeth gyntaf, ac yn dilyn yr ymateb cadarnhaol, mae’r broses hon yn cael ei defnyddio ar gyfer yr holl achosion o ddioddefwyr posibl masnachu mewn pobl yn y dyfodol. Arweinir y Gynhadledd Asesu Risg Masnachu Mewn Pobl Amlasiantaethol gan Bawso ac mae’n cynnwys nifer o bartneriaid o nifer o asiantaethau. Mae’r Cydgysylltydd yn rhaeadru’r ‘arfer da’ hwn i lawr ar draws Cymru.

 

1.18  Ym Mehefin 2013, trefnodd y Cydgysylltydd ymweliad gan Ymatebwyr Cyntaf NRM Cymru, Arweinydd Strategol pedwar Llu Heddlu Cymru a’r Mannau Cyswllt Unigol a Chydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru â Chanolfan Masnachu Mewn Pobl y Deyrnas Unedig.  Roedd yr ymweliad yn cynnwys Cyfarfod Briffio ar Gudd-wybodaeth Masnachu Mewn Pobl yn y Deyrnas Unedig a Chymru gan Bennaeth Canolfan Fasnachu Mewn Pobl y Deyrnas Unedig, rôl y Cynghorwyr Tactegol, esboniad o broses yr NRM a’r gallu i siarad gyda’r staff am unrhyw broblemau.

 

1.19  I nodi Diwrnod Atal Caethwasiaeth (Dydd Gwener 18 Hydref 2013) cynhaliwyd Cynhadledd Atal Masnachu Mewn Pobl Gogledd Ddwyrain Cymru yn Wrecsam.  Daeth dros 100 o ymarferwyr i’r gynhadledd hon a rhoddodd Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, y prif anerchiad.

 

2.    Effeithiolrwydd gweithio amlasiantaeth rhwng adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chymru a chyrff eraill fel byrddau iechyd a’r Heddlu:

 

2.1     Y Grŵp Gweinidogol Rhyngadrannol, y cyfeirir ato uchod, sy’n goruchwylio ymdrechion y Deyrnas Unedig i frwydro yn erbyn masnachu mewn pobl. Cadeirir y Grŵp gan Weinidog y Swyddfa Gartref dros Ddiogelwch ac mae’n cynnwys Gweinidogion o Adrannau Llywodraeth eraill yn San Steffan, Swyddfa Cymru a Swyddfa’r Alban, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru.  O Lywodraeth Cymru, mae’r Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a’r Cydgysylltydd Atal Masnachu Mewn Pobl yn mynd yno.

 

2.2     Cynrychiolir Cymru gan y Cydgysylltydd ar nifer o Grwpiau yn y Deyrnas Unedig: Bwrdd Lleihau Bygythiad y Deyrnas Unedig, a Bwrdd Strategaeth Masnachu Mewn Pobl y Deyrnas Unedig, Grŵp Strategaeth ar y Cyd y Swyddfa Gartref (Sefydliadau Anllywodraethol), Grŵp Adolygu Goruchwyliaeth yr NRM a Fforwm Rhannu Gwybodaeth Masnachu Mewn Plant y Swyddfa Gartref. Yn ychwanegol, mae’r Cydgysylltydd yn aelod o Grŵp Rheoli Ffiniau Cymru a nifer o grwpiau strategol a gweithredol allweddol eraill.

 

2.3     Bydd y Cydgysylltydd yn cyfarfod â Swyddogion o’r Swyddfa Gartref, y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Llywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a phartneriaid eraill yn y Deyrnas Unedig yn gyson i drafod a rhannu arfer da wrth ymdrin â masnachu mewn pobl.

 

2.4     Mae’r Cydgysylltydd yn gweithio yn agos gyda phedwar Llu Heddlu Cymru, yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol ac asiantaethau eraill sy’n gorfodi’r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys Arweinydd Strategol ACPO Cymru a Lloegr ar Droseddau Mewnfudo a Materion Cysylltiedig, Shaun Sawyer Prif Gwnstabl Heddlu Dyfnaint a Gwlad yr Haf. Jeff Farrar, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, sy’n arwain yng Nghymru i sicrhau bod pedwar Llu Heddlu Cymru yn cydweithio. 

 

2.5     Nod ACPO yw sicrhau y bydd gweithgareddau’r heddlu ar fasnachu mewn pobl yn gwneud y Deyrnas Unedig yn lle anos i fasnachwyr mewn pobl, y rhai sy’n hwyluso hynny a’r rhai sy’n manteisio ar hynny i weithredu. Fel y nodir yn ein hymateb i gwestiwn 1 uchod, fel rhan o ‘Operation Eagle’, dynodwyd Mannau Cyswllt Strategol a Sengl yn yr holl Luoedd Heddlu i arwain ar wella ymateb yr Heddlu i fasnachu mewn pobl.  Sicrhaodd y Cydgysylltydd bod ‘arfer da’ yn cael ei rannu trwy ddwyn aelodau sy’n arwain ar ‘Operation Eagle’ o bedwar Llu Heddlu Cymru at ei gilydd.

 

2.6     Cynrychiolir yr Heddlu, Byrddau Iechyd ac Adrannau eraill Llywodraeth Cymru ar Grŵp Arwain Atal Masnachu Mewn Pobl Cymru a’r Fforymau Atal Masnachu Mewn Pobl Rhanbarthol.

 

3.    Rôl Awdurdodau Lleol wrth ddynodi a chodi ymwybyddiaeth:

 

3.1     Fel y nodir uchod, dynodwyd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet, yn arweinydd PSLG ar Atal Masnachu Mewn Pobl. Mae Mr Mehemet, fel cynrychiolydd Gogledd Cymru ar y PSLG, yn hyrwyddo gwaith ar Ynys Môn i Brif Weithredwyr Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru ac yna gyda Phrif Weithredwyr holl Awdurdodau Lleol Cymru, i gefnogi nod Llywodraeth Cymru o wneud Cymru yn anodd i fasnachwyr mewn pobl ac i gefnogi dioddefwyr sydd wedi cael eu masnachu.

 

3.2     Cefnogodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych Brif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, ar gais llwyddiannus i Gronfa Gydweithredu Ranbarthol Llywodraeth Cymru, am Gydgysylltydd Atal Masnachu Mewn Pobl i Ogledd Cymru. Penodwyd Cydgysylltydd Rhanbarthol Gogledd Cymru ym mis Hydref 2013.

 

3.3     Mae’r Cydgysylltydd, ar y cyd â Chydgysylltwyr Cydlyniant Cymunedol Llywodraeth Cymru yn y 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, yn darparu hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth o fasnachu mewn pobl, esbonio sut i roi adroddiad am ddigwyddiadau a sut i gyfeirio dioddefwyr at Ganolfan Masnachu Mewn Pobl y Deyrnas Unedig trwy ddefnyddio’r NRM.

 

4.    Sut mae argymhellion adroddiad Cyngor Ewrop 2012 ‘GRETA’ ac adroddiad SOLACE 2009 ar fasnachu mewn pobl yn cael eu symud ymlaen a chynlluniau ar gyfer gwaith yn y dyfodol:

 

4.1     Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad GRETA y Grŵp o Arbenigwyr ar Weithredu yn erbyn Masnachu Mewn Pobl ‘Concerning the implementation of the Council of Europe Convention on Action Against Trafficking in Human Beings by the United Kingdom 2012’  yw gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno ac adeiladu ar yr argymhellion. Rhoddir manylion am effeithiolrwydd yr ymateb hwn a’r llwyddiannau hyd yn hyn uchod.  

 

4.2        Mae rôl ‘Hyrwyddwr’ Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn cynnwys atgyfnerthu ymwybyddiaeth o adroddiad SOLACE 2009 ‘The role of Local Authorities in addressing human trafficking’.